Ffôn: 029 2047 2266
E-bost: post@llenyddiaethcymru.org
Croeso i wefan Placiau Awduron Cymru
Ddiwedd 2008 gwobrwywyd yr Academi â Dyfarniad Cwmni Disglair Cyngor Celfyddydau Cymru, a sicrhaodd nawdd i ddatblygu cynllun 'twristiaeth lenyddol'.
Rhan o'r cynllun hwn yw'r wefan hon, sy'n talu sylw i'r placiau sy'n coffau llenorion amlwg Cymru.
Comisiynwyd Tony Bianchi i wneud gwaith ymchwil ar ran yr Academi, i greu rhestr o rai o'r placiau sydd yn bodoli eisoes. Yma gallwch ddarllen a gweld ffrwyth yr ymchwil, yn ogystal â darllen rhagor am y llenorion eu hunain. Creda Llenyddiaeth Cymru fod placiau o'r fath yn fodd o atgoffa cymunedau ledled y wlad am y beirdd a'r llenorion a fagwyd yn yr ardal honno, a'u cyfraniad amhrisiadwy i fywyd a diwylliant Cymru.
Placiau Awduron ledled Cymru
Mae'n debyg fod llawer mwy o lenorion wedi eu coffau yma yng Nghymru – nid mewn mynwentydd, ond trwy gyfrwng placiau a cherrig coffa. Dymuna Llenyddiaeth Cymru fod y rhestr isod o blaciau'n tyfu, gan sicrhau fod yma gofnod llawn a chymwys .
Os y gwyddoch am unrhyw blac arall, ac os hoffech gyfrannu at y rhestr, byddai Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch o dderbyn eich awgrymiadau.
Rhowch glic ar yr enwau isod i ddarllen mwy am y llenorion a'u placiau.
